This is a Clilstore unit. You can .
Eistedd yma’n unig
‘ Ben fy hun
Heno ‘sdim amynedd
I helbul byd.
Ond mae’r nos yn ffoi,
Fel mae’r byd yn troi.
Fel y môr o gariad.
A roddais iti.
‘Sdim byd yma heno
Ond adlais cariad mawr.
Ac i’m gwydrau gweigion
Ar y llawr.
Ac i gwpla’r llun
Yn y botel, gwaddod gwin
Gwaddod y môr o gariad
A roddais iti.
O, hwn oedd cariad glân
Hwn oedd cariad ffôl
O roeddwn i ar dân
Ie, ‘sdim ar ôl.
Strydoedd oer y ddinas
Strydoedd mor llawn.
Atgofion fydd amdani
Ei serch a’i dawn.
Serch hynny mae’n rhaid byw
Ymuno efo hwyl y criw
Sych yw’r môr o gariad
A roddais iti.
Ie, sych yw’r môr o gariad
A roddais iti.
Short url: https://clilstore.eu/cs/2118