This is a Clilstore unit. You can .
Dw i [we]di gweld nifer o adar y môr heno. Nes i weld bilidowcar yn fflio heibio, a mae [y]na ddwy neu dair o wylanod yn eistedd ar y dŵr.
Mae creigiau [y]ma [y]n ddiddorol iawn. Mae [y]na aur y lichens yn tyfu yn bob man, a hyd yn oed un neu ddau o flodau - diddorol dros ben.
Dw i'n siŵr bod [y]na fwy o adar rywle ar Ynys Llanddwyn. Mae Ynys Llanddwyn lle oedd Santes Dwynwen yn byw, a hi [y]dy santes cariadon Cymru.
Heibio'r bryn yma - fedran ni [ddi]m weld o ar y funud - mae [y]na adfeilion hen abaty, a dwy groes, a hefyd bwthyn y peilotiaid, a dau oleudy.
Short url: https://clilstore.eu/cs/1500