This is a Clilstore unit. You can .
Y flwyddyn yma, dw i'n mynd i mewn i fy ail flwyddyn yn prifysgol yn Kent, yn astudio Seicoleg.
Dw i'n mwynhau bod yn prifysgol achos dw i'n cael mwy o anibynniaeth a mwy o ryddid na ydw i pan dw i adre - dw i'n gallu mynd i unrhyw le dw isho, neu goginio unrhyw beth dw i'n ffansïo.
Dw i'n falch bod fi 'di medru setlo lawr yn iawn a gwneud ffrindiau da, er bod y gwaith yn gallu bod yn anodd.
Blwyddyn yma, dw i'n byw mewn tŷ efo pump o genod [=genethod] eraill, mewn tŷ tu allan i'r campws, a dan [=rydym] ni'n ffrindiau eitha da, so gobeithio fydden ni ddim yn ffraeo gormod!
Dw i'n edrych ymlaen am y pethau newydd fydden ni dysgu y flwyddyn yma, ond dw i'n poeni am yr arholiadau sy'n dod i fyny.
Short url: https://clilstore.eu/cs/1356