This is a Clilstore unit. You can .
Ifor ap Glyn yw f’enw i a dwi’n byw yma yng Nghaernarfon, y dre Gymreicia yn y byd i gyd, lle mae 9 allan o bob 10 yn siarad yr iaith a’r rhanfwya o’r lleill yn ei deall hi hefyd.
Ond ces i ‘ngeni a’m magu mewn lle gwahanol iawn, yn Llundain.
Mae ‘na gymuned Gymraeg yn parhau yno hyd heddiw ac roedd fy nhad a fy mamgu yn rhugl eu Cymraeg er na fuon nhw’n byw erioed yng Nghymru. Fy hendadcu oedd y cynta i setlo yn y ddinas, yn 1886 –
ac roedd ei dad yntau wedi porthmona merlod i ffair Barnet ar gyrion Llundain genhedlaeth cyn hynny.
Mae’r teulu i gyd yn medru’r iaith, a bydda’i’n jocian weithiau ‘mod i wedi cael fy magu’n ddwyieithog- achos roedd Mam yn siarad iaith Gwynedd a ‘nhad yn siarad iaith Ceredigion!
Ar ôl ysgol yn Llundain, es i’r brifysgol yng Nghaerdydd i astudio Cymraeg a Hanes Cymru. Un o ‘mhrofiadau cyntaf o sgwennu mewn mydr ac odl oedd llunio geiriau ar gyfer band roc on i’n canu ynddo.
Un dydd ar ôl sydd inni,
un dydd ar ôl sydd inni…
Tydi’r awydd i ganu ddim mor gryf y dyddiau hyn ond mae’r awydd i berfformio cerddi yn parhau a dwi wedi bod yn ffodus i gael cyflwyno ngwaith ar sawl cyfandir.
Mae ‘ngherddi wedi’u cyfieithu i dros ugain iaith ac mae’n braf cael defnyddio’r iaith leol wrth gyflwyno ‘ngwaith yn lle gorfod dibynnu ar yr iaith fain o hyd.
Mae’n braf teithio yng Nghymru hefyd wrth gwrs. On i’n rhan o un o’r teithiau barddol cyntaf nôl yn 1986 a dwi wedi gwneud sawl un ers hynny, fel arfer yng nghwmni beirdd eraill o Gymru ond weithiau yng nghwmni beirdd o wledydd eraill, fel Màirtinn mac an t-Saoir o’r Alban.
...ac o dîm Caernarfon, Ifor ap Glyn...
Rhywbeth arall sydd wedi bod yn rhan gyson o fy mywyd barddol ydi Talwrn y Beirdd, yr ornest radio lle mae timau o feirdd yn cystadlu hefo’i gilydd i weld pwy fydd pencampwr y flwyddyn honno- ac mae tim Caernarfon wedi dod i’r brig fwy nac unwaith! Rhaid diolch i’r Talwrn am ysgogi ni i greu ac ymateb i’n byd ni…
Hunlun arall i wadu’r hunlle,
ebychiad arall mewn monolog o lunia
Dros y blynyddoedd dwi wedi cyhoeddi chwe chasgliad o gerddi, un nofel am fywyd y Cymry yn Llundain, a nifer o lyfrau ffeithiol.
Ond fy ngwaith bob dydd oedd cynhyrchu rhaglenni teledu, a’u cyflwyno weithiau, ar bob math o bynciau, o dai bach y byd i hanes caethwasiaeth yn America. Roedd un gyfres ‘Popeth yn Gymraeg’ yn arbrawf gymdeithasol i weld a allwn i deithio o gwmpas Cymru heb ddefnyddio Saesneg o gwbl!
Bore da!
Ble rydych chi’n byw?
Rydw i’n byw yn y Fenni!
Mewn rhaglen arall bues i’n crwydro chwareli Gwynedd lle bu sawl cenhedlaeth o deulu Mam yn gweithio gynt. Mae diwylliant y chwarel, (yr unig ddiwydiant trwm yn ein hanes ni fel Cymry oedd yn digwydd yn gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg) wedi ysbrydoli nifer o gerddi gen i:
Mae hanes yn hollti’n hawdd mewn dwylo medrus;
aeth y dychis a’r ladis i fyd gwell prifysgolion
i doi capeli ac ysbytai…
Arhosodd lluosowgrwydd mwy fan hyn
i godi pyramidiau’r werin,
i droi cerrig wast yn rhwysg...
Rhaglenni dogfen oedd y rhan fwyaf o’r pethau dwi ‘di gweithio arnyn nhw, ac weithiau bydden nhw’n ymwneud â phynciau llenyddol, er enghraifft, hanes y bardd Hedd Wyn a laddwyd ger Ieper yn 1917 cyn y gellid ei gadeirio am ei awdl fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.
Pan ges i fy ngwneud yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2016, fues innau’n destun rhaglen fy hun. Dyma’r noson y tafluniwyd un o ngherddi ar ochr Big Ben:
Dwi’n falch iawn o fod yn rhan o Sul y Cofio yma ar lannau’r Tafwys, achos fel Cymro Llundain, fel hogyn a fagwyd yn y ddinass hon mae gweld ein hiaith ni yn cael ei thaflunio i fyny fanna ar ochr un o adeilada mwya sumbolaidd y ddinas hon yn wirioneddol wefreiddiol. Ond dwi’n licio meddwl hefyd, gan fod hon yn ddinas mor gosmopolitan, gan fod gwledydd Prydain yn gyffredinol mor gosmopolitan achynifer ohonon ni bellach yn siarad ieithoedd heblaw Saesneg, wedi magu i siarad ieithoedd heblaw Saesneg fel ieithoedd cynta, dwi’n lcio meddwl fod cynnwys y Gymraeg yma yn gydnabyddiaeth o’r ffaith yna hefyd.
Dwi wedi ymddiddori erioed yn y posibliadau o ddefnyddio cyfryngau eraill i ymestyn y gynulleidfa ar gyfer cerddi Cymraeg: dwi ‘di defnyddio matiau cwrw, cardiau post, safleoedd bws hyd yn oed
- a gweithio hefo cerddorion wrth gwrs. Ces i berfformio’r gerdd hon fel rhan o’r cyngerdd i ddathlu agor ein Senedd yn 1999.
Fydd colofnwyr papur newydd
ddim yn cael parhau a’r arfer o sillafu
Gogledd a De Cymru
hefo G a D fawr
fel Gogledd a De Corea neu Fietnam,
achos nid y DMZ na’r 49th parallel sy’n ein gwahanu
ond lôn sal,
pobl sy’n dweud ‘sietin’
a defaid teircoes Bannau Brycheiniog
felly Rhybudd – Cynulliad
bydd yn newid ein ffordd ni o feddwl,
Rhybudd Cynulliad
gadewch eich rhagfarn wrth y drws...
Ond mae posibliadau fideo yn arbennig o gyfoethog, gan fod modd defnyddio isdeitlau mewn iaith arall, heb amharu ar allu’r gwyliwr i fwynhau sŵn y gerdd yn y Gymraeg wreiddiol.
Bydd yn newid ein ffordd ni o feddwl
Rhybudd Cynulliad
Ond sdim byd i guro’r profiad o rannu cerddi hefo cynulleidfa fyw
Diolch yn fawr!
a gobeithiaf gael gwneud hynny am flynyddoedd eto i ddod, yng Nghymru a thu hwnt.
Short url: https://clilstore.eu/cs/12461