This is a Clilstore unit. You can .
Un o nodweddion yy...barddoniaeth yn Gymraeg...mm...sydd wedi apelio ataf i erioed, ydi bod ‘na falla fwy o ddimensiwn cymdeithasol... a gwleidyddol gydag ‘g’ ac ‘c’ fach iddi... mae
Ac mae hyn yn cysylltu ni a...hefo gwreiddia y traddodiad o sgwennu yn Gymraeg, hynny yw, mi oedd, mi oedd y tmod... tra bod ni heddiw yn dal i feddwl bod hi’n bwysig i nodi petha cymdeithasol, achlysuron cymdeithasol, fel mm...pan mae rhywun yn marw, pan mae rhywun yn cael eu geni, pan mae rhywun yn ...mm...priodi... bod cerdd... bod cerdd yn rhwbath a ddylid ei gyflwyno er mwyn crisialu rhwbath ar ...ar ein meddylia ni am...am yr achlysur...
Mae hynna’n cysylltu ni hefo gwreiddiau y traddodiad o ganu yn Gymraeg, bymthag can mlynadd yn ôl, dyna odd diben beirdd, er mwyn canu mawl yy... i’r uchelwyr, gan amla... i’r rhyfelwyr...yy... ac i foli eu haelioni nhw yn y byd hwn ‘lly, ...yyy...eu dewrder nhw, yn y byd hwn ac...dymuno’n dda iddyn nhw yn y byd nesa... mm...ma...
Ond, ddim jest canu mawl oedd canu traddodiadol, oedd na hefyd elfen o adloniant... roedd cerddi yn adloniant, a dan ni’n gweld hynny o hyd yn y ffaith bod, tmod... bod gynnon ni’r rhaglen radio ‘ma, cystadleuaeth y Talwrn, bod dau dim yn cystadlu hefo’i gilydd hefo cerddi yn Gymraeg, yn adloniant ...bod y teithiau barddol sydd yn digwydd yn achlysurol, a’r yy... digwyddiadau a darlleniadau nosweithiol , ma rhein yn adloniant, a dal yn ffordd boblogaidd iawn i gymdeithasa gwledig a threfol i ddifyrru eu hunain, dros y gaea gan amla, ond yn ystod yr ha yn ogystal...
Mae’r canu, natur y canu... canu traddodiadol yn Gymraeg wrth gwrs, ydi’r canu caeth, canu sydd yn dilyn rheola ynglŷn ag odli a ...mm... cyfatab...atab cytseiniaid’lly... cyflythrennu! Cyflythrennu ‘di’r gair on i’n chwilio amdano... mm... sydd wedi’u sefydlu ers o leia 7, 8 can mlynedd yn ei ffurf bresennol ac hefo’u gwreiddia yn mynd nôl i’r cyfnod cynta un, bymthag can mlynadd yn ôl, felly mae cynganeddu, y canu caeth, yn dal yn boblogaidd iawn, yn wir, ‘swn i’ndeud fod o falla’n cael ‘pym bach o ddadeni ar hyn o bryd.
Mae’n... mae’n gyfrwng on i’n teimlo odd rhaid imi ... odd rhaid imi ymdrwytho ynddo fo, er mwyn dysgu’r rheola, ac yn wir mae rhywfaint o ddylanwad y gynghanedd ar sut fydda’i’n canu...ond at ei gilydd, dewis canu yn y mesur penrhydd y bydda i, ‘lly...
mae gynnon ni’r canu caeth, y canu rhydd fel dan ni’n ei galw hi, sef canu mewn mydr ac odl, ond heb fod ar gynghanedd, ac heb fod chwaith mor rydd fel ei bod yn troi yn wers rydd...y canu penrhydd ydi’r cyfrwng y ‘swn i’n ei ddewis fel arfer ‘lly er mi fydda’i yn sgwennu amball i englyn, amball i gywydd i nodi achlysur arbennig...
Ac mae’n ddiddorol sut mae canu yn y Gymraeg wedi esblygu dros y canrifoedd ‘lly... mm...mae’na...un o’n beirdd cynta ni oedd y bardd Taliesin... mmm...mae... oedd o’n ffigwr hanesyddol odd yn canu..yy..tua diwadd y chweched ganrif, ond mae’na hefyd ffigwr chwedlonol – Taliesin- mae’n debyg fod Taliesin fel bardd wedi... wedi creu cymaint o sôn amdano fo’i hun, odd ‘na fytholeg wedi tyfu o’i gwmpas o wedyn ‘lly... so ar y naill law mae gynnon ni’r cerddi sydd wedi eu priodoli i Taliesin y bardd, ac wedyn mae gynnon ni y myth, y chwedl...
ac yn y myth hwnnw oedd Taliesin wedi cael doethineb a phwerau oedd yn ei alluogi fo i drawsffurfio’i hun, er mwyn osgoi...yy...marwolaeth... ac felly yn... y fersiwn mwya poblogaidd o’r chwedl, er mwyn osgoi rhywun sydd am ei ladd o, mae’n troi’i hun yn gynta, yn sgwarnog er mwyn rhedeg yn gynt na nhw...ond maen nhw’n troi’i hunain yn filgi, ac fel mae’r milgi ar fin dal y sgwarnog, mae Taliesin yn troi’i hun yn dderyn ac yn hedfan o afael y milgi – ond maen nhw’n troi’i hunain yn ...eryr, a’r eryr yn dod i ddifa y deryn bach wrth iddo hedfan yn hyr awyr felly mae’n plymio lawr a mewn i afon gan droi’i hun yn samwn, ond mae’r gelyn yn tro’i hun yn ...ddwrgi ac yn erlid y samwn nes iddo neidio allan o’r dŵr a troi’i hun yn hedyn, ac felly gath o ryw fath o waredigaeth...
dwi’n hoff iawn o sumboliaeth yr holl beth ‘ma, a dyma... mae chwedl Taliesin yn chwedl sydd wedi cael ei weld fel rhyw fath o mm... dwnim...rhywbath sy’n gallu cynrychioli ein profiad ni fel Cymry, dan ni ‘di gorfod trawsffurfio’n hunain, mae’n canu ni ‘di gorfod trawsffurfio’i hun, a gobeithio’n wir y gwnaiff barhau i wneud am flynyddoedd i ddod.
Short url: https://clilstore.eu/cs/12440