This is a Clilstore unit. You can .
A finnau’n byw fama yng Nghaernarfon, wrth gwrs, dwi’n medru byw...rhanfwya ‘mywyd drwy gyfrwng y Gymraeg...yy.. di hynny ddim yn wir ymhob man yng Nghymru.... ac wrth gwrs, mae rhai agwedda o ‘mywyd i, mae’n siwr, ‘swn i’n gorfod ymwneud â’r ...wladwriaeth drwy gyfrwng y Saesneg... felly tmo, mae, mae’na haenau i hunaniaeth pawb... mae’n gorfod bod, dan ni’n byw ryw fywydau aml-ddiwylliannol, lle bynnag ydan ni... i ryw radda’n de... hynny yw, mae’n haws anwybyddu’r elfennau aml-ddiwylliannol gan ddibynnu lle dach chi’n byw, p’un ai o safbwynt y Gymraeg... yma yng Nghaernarfon... mae rhywun yn medru byw mewn rhyw gyfanfyd Cymraeg... a mae’n bosib yn y rhan fwyaf o lefydd yn y Deyrnas Unedig i fyw oddi fewn i ryw gyfanfyd Seisnig...ma...ma...a’r rhanfwya o lefydd yng Nghymru, yn wir
Ac wrth gwrs. mae hwnna’n codi cwestiwn diddorol ynglŷn â’r Saesneg, mae, mae’n perthynas ni hefo’r Saesneg yn un... yn un driphlyg... mm... ar un lefel, mae’r Susnag yn gyfrwng hunaniaeth i bedwar allan o bump o’n...o’n cydwladwyr...mm... hynny yw ‘English is a Welsh language’ ynde, mae’n iaith sydd hefo’i... yy...ffurfia, a’i acen, a’i ...a’i eirfa ei hun...mm...felly mae’n gymaint...falla ddim i’r un radda, yn sicir, ddim â’r un statws, ond mae yn yr un modd â mae Scots yn iaith yn yr Alban...
sgynnon ni ddim enw ar gyfer Susnag yng Nghymru, hynny yw, os dan ni’n sôn am ‘Welsh’ fel arfar mae rhywun yn dallt fod rhywun yn siarad am Gymraeg, ond mae ‘Welsh-English’ neu ‘Wenglish’ neu be bynnag mae rhywun isio’i alw fo yn iaith, yn ffurf ar yr iaith Susnag yma yng Nghymru. So dyna... dyna un lefel i’r berthynas hefo Susnag, mae’n iaith dan ni wedi ei meddiannu.
Mae Susnag hefyd wrth gwrs yn iaith ryngwladol, sydd yn fodd inni gyfathrebu hefo pobl ar draws y byd... yy... ar...ar lefel gyfartal...mm... mae’n gallu cyfryngu gwybodaeth o bedwar ban i ni yma yng Nghymru ac hefyd mae’n gallu bod yn fodd inni siarad amdanon ni’n hunain a rhannu’n profiada ni hefo pobol o bedwar ban...
Ond, mae Susnag hefyd... dyma’r trydydd pen ynde...mae Susnag hefyd yn iaith ymerodrol, yn iaith drefedigaethol, yn iaith sydd, yn ystod ein hanes ni, wedi, yn raddol bach, gwthio yn erbyn y Gymraeg, weithia mewn ffordd ddigon gormesol a milain...yy..ac wedi disodli’r Gymraeg, felly mae’r elfen yna i’n perthynas ni hefo... hefo’r Susnag
Wrth gwrs, tmo, mae Susnag, mae’n dibynnu lle dach chi yn y byd, dwi’n cofio siarad hefo rhywun flynyddoedd yn ôl o...o...mm...y Weriniaeth Tsiec, ac iddyn nhw roedd... Susnag oedd iaith ryddid, achos odd o’n cynrychioli rhyw ryddid...mm, tmod, ol-gomiwnyddol... tmod, dodd o ddim jest yn iaith ryngwladol, odd o’n iaith ryddid. Mm...dwi’m yn meddwl bod ni’n gweld hi cweit felna yma yng Nghymru, ond mae’n dangos, mae dimensiyna gwahanol yn bosib i’n perthynas ni hefo’r Susnag...
.a dyna un peth y mae’n rhaid inni ymgodymu ag o yn y Gymru sydd ohoni, dwi’n meddwl mai M.Wynn Williams sed tmod... fedar Cymru...mm...M. Wynn Thomas, sori, ddudodd ‘Wales can never come fully to terms with herself until she acknowledges the bilateral nature of... her bilateral nature’. Mae dwyieithrwydd wedi... esblygu yn y cyd-destun Cymreig, o fod yn ffordd inni siarad hefo... hefo’r byd tu allan...hynny yw, oedd Susnag, neu Ladin cyn hynny, yn fodd i gyfryngu syniada mewn i’r cyfanfyd Cymraeg...erbyn hyn, mm...mae...dwyiethrwydd...yn ...yn...yn ff...yn wedd ar ein perthynas hefo ni’n hunain fel Cymry, ynde, hynny yw fedra’i ddim siarad hefo...mm...rhywun sydd ddim yn medru Cymraeg, ‘blaw bo fi’n defnyddio iaith arall ynde... so mae’na ...mae... mae dwyieithrwydd wedi esblygu yn hynny o beth, o fewn y profiad Cymreig.
Ac efalla bod hwnna’n rhwbath y medrwn ni rannu hefo pobol erill yn y Deyrnas Unedig, tmod, dan ni ‘di bod yn byw hefo iaith arall ers...ar ryw lefel ers pum can mlynadd? Hynny yw, wnath y ...wnath yr uchelwyr ymseisnigeiddio yn raddol, o gyfnod... ddudwn ni 1485 ymlaen...yy... gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol wrth gwrs oddna sifftia demograffig, pobol... rhai yn coleddu’r iaith, does mond rhaid ichi sbio ar rai o’r...yy... cyfenwa sydd gin Gymry Cymraeg pybyr dyddia hyn, tmod, dach chi’n gallu gweld, rhwla ar hyd y lein, odd eu cyndada nhw wedi dod o rwla gwahanol iawn, p’un ai o Loegr, o Werddon, o’r Almaen... hynny yw, mae’na ddigon o ddewis o gyfenwa...yy...diddorol gin Gymry glân gloyw yn y Gymru sydd ohoni...
Short url: https://clilstore.eu/cs/12439