Clilstore Facebook WA Linkedin Email
Login

This is a Clilstore unit. You can link all words to dictionaries.

Ifor ap Glyn (5)

Roedd gwneud yy... Lefel O yn y Gymraeg yn dipyn o gam i mi, oherwydd...  wrth gwrs don i ddim wedi derbyn unrhyw addysg ffurfiol yn y Gymraeg... mm ...yn wir, tan on i’n rhyw bedar ar ddeg, pymthag, ‘swn i’n deud  bod, bod, bod ‘y Nghymraeg i fwy neu lai yn hollol... hollol lafar. Hynny yw, doedd gen i fawr o syniad ynglŷn â... mm... yr iaith lenyddol. On i, on i’n gwbod digon i fedru darllan ....yy... yr emyna on ni’n canu yn y capal... ond wrth gwrs odd rheini ‘di sgwennu mewn rhyw gywair tu hwnt i ‘Nghymraeg i, hynny yw, mewn rhyw iaith ddigon hen ffasiwn, felly on i’n canu nhw, heb ddallt yn iawn be on i’n ei ganu.

mm... Ond dwi’m yn siwr be odd yr ysgogiad, rodd nifer o ffactora, ond yn raddol bach wnes i ryw fath o, dwmbo... deffro... teimlo ‘mod i isio dallt mwy am yr iaith ‘ma on i’n ei siarad, a medru’i sgwennu hi hefyd

mm...ac roedd hynny’n agoriad llygaid, rodd... i ddarganfod yy bo fi’n deud petha mewn un ffordd, ond on i i fod i sgwennu nhw mewn ffordd tipyn bach yn wahanol...mm... er bod y Gymraeg yn gyffredinol yn iaith ddigon ffonetig, ond dyna fo, yy es i ati, mi wnes i’r Lefel O, a wedyn fel on i’n ddeud, odd y teimlada ‘ma yn...yy.. cronni’n fwyfwy ynof i a dyma fi’n teimlo, wel, ‘swn i’n licio ella mynd i’r coleg yng Nghymru, a ‘studio Cymraeg a Hanas Cymru...

Wel, odd’na broblam fach yn fanno wrth gwrs, achos os dach chi’n mynd i wneud pwnc yn y Brifysgol, fel arfar mae disgwyl fod gynnoch chi Lefel A yn y pwnc yna, i’ch cymwyso chi ar gyfer y peth...

Felly, ar ôl gadael yr ysgol, cymis i flwyddyn i ffwrdd, gweithio mewn rhyw... gwneud rhyw jobsys...mm... industrial temping on nh’n ei alw fo, sef bod ni’n symud dodrefn, a gwneud rhyw jobsys torchi llewys doedd pobol yn y Ddinas yn Llundan ...ddim isio’u gwneud eu hunain ‘lly... a rhai ohonyn nhw’n jobsys dros nos, fuis i’n gweithio am gyfnod fel yy night watchman yn y Barbican, so on i’n ista wrth ddesg ...a fawr ddim byd i wneud drwy’r nos, ond on i’n gallu adolygu ar gyfer fy arholiad Lefel A... a mi wnes i lwyddo i basio...rywsut, a minna... ‘di dysgu’n hun... mm... a ‘mlaen â fi wedyn, i’r coleg yng Nghaerdydd...mm... a dyna ma’ siwr, y rheswm yn y pen draw ...pam... i mi symud yn ôl i Gymru... dwi’m ...hynny yw, dwi’m yn meddwl mod i ‘di penderfynu ar y pwynt yna, ma dyna on i am wneud, ond wnes i gwarfod â ‘ngwraig tra on i yn y coleg yng Nghaerdydd, wnes i fwynhau bod, byw, am y tro cynta yn ôl yng Nghymru, a wedyn rhai blynyddoedd yn ddiweddarach... mi briodon ni ... mynd i fyw i ddechra yn Nimbach ac wedyn dod, rhyw... tynnu am ddeugian mlynadd yn ôl rwan... i fyw yma, yng Nghaernarfon... lle..yy... wel, y lle Cymreicia ar y blaned mae’n debyg erbyn hyn, yy...lle mae agos i  nawdeg y cant yn siarad yr iaith ac mae’r rhanfwyaf o’r lleill yn ei deall hi.

Wrth gwrs, mae’r patrwm yn wahanol iawn mewn wahanol ardaloedd o Gymru, mae... hynny yw, mae’na ardaloedd yng Nghymru lle mae rhyw 5 a 10% yn unig yn siarad yr iaith a dach chi’n annhebygol o glywad yr iaith ar y stryd.... ‘blaw bo chi’n gwbod lle i fynd i chwilio amdano fo, yy...dach chi ddim yn mynd i ddod ar draws yr iaith yn ôl bob tebyg...

 a wedyn nifer o lefydd rhywle yn y canol, a wedyn yn y gorllewin ac yn y gogledd mae’r rhanfwyaf o’r...cadarnleoedd... er eu bod nhw un ac oll wedi’i effeithio i ryw radda gan y patrwm o fewnfudo sydd wedi bod, yn eironig i ryw lefel, yn yr union cyfnod pen mae’r Gymraeg wedi ennill mwy o statws a mwy o hawlia, mae’r patrwm demograffig wedi newid...

Ond dwi’n licio bod yn optimistig ynglŷn â’r petha ‘ma... mm... mi welwyd newidiada demograffig anferthol yn y de-ddwyrain...mm... adeg y Chwyldro Diwydiannol ‘lly...yy... a dyna’r llefydd lle erbyn hyn, mae’r rhanfwyaf o bobol....sydd hefo’r lefel ucha o bobol sy’n uniaethu fel Cymry...’wan ta, rhai yn siarad Cymraeg, llawar  iawn ddim, ond maen nhw’n uniaethu fel Cymry. er falla, fod llawar iawn o’u cyndeidia nhw ddim yn dod o Gymru... felly, mae modd, mae modd yy... be maen nhw’n ddeud? ‘thesis, antithesis, synthesis’  - mae modd  inni greu rhwbath... mae modd inni greu Cymru... os dan ni’n dymuno, fel ddudodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams: ‘Wales is an artefact that we make and remake in every generation -if we want to’ Wel, dwi yn sicir ymhlith y ....y garfan sydd isio, a dwi’n teimlo , ar y cyfan, mai dyna ydi dymuniad y mwyafrif yn ogystal.

Clilstore CIALLIfor ap GlynExtensions

Short url:   https://clilstore.eu/cs/12438