This is a Clilstore unit. You can .
‘Beth am y gymdeithas Gymraeg yn Llundain heddiw?...’ wel, wrth gwrs ddim fi ‘di’r un gora i atab cwestiwn o’r fath gan fod ‘y nghysylltiad i o hirbell bellach...yy mae... ar ôl inni golli ‘nhad mae fy mam wedi symud i fyw yn agos aton ni yma yng Nghaernarfon... mae ‘mrawd yn dal i fyw yn Llundan, neu ar gyrion...gyrion Llundan...yy dwi’n dal i weld fy ffrindia o gymdeithas Cymry Llundan yn achlysurol...
Hyd y gwela’i, mae pobol yn dal i symud i Lundan, mae’r dynfa dal yna... ddim ir un gradda ag rodd hi yng nghyfnod fy rhieni a fy mamgu a nhadcu, a’r cenedlaethau cyn hynny, oherwydd bellach wrth gwrs, mae gynnon ni brifddinas i Gymru, yng...yng Nghaerdydd; felly yn sicr, ym maes llywodraeth , ym maes y cyfrynga ac yn y blaen, mae’na fwy o dynfa falla rwan i Gaerdydd yn hytrach nag i Lundan...
....a dwi’m yn ama hefyd, falla bod Llundan dyddia hyn yn fwy o gymdeithas aml-ddiwylliannol, neu ‘n fwy ymwybodol aml-ddiwylliannol nag odd hi pan on i’n tyfu fyny.
Wrth gwrs, mi oedd Llundan yn lle aml-ddiwylliannol yn fy ieuenctid i ...un o ffrindia gora fi, pan on i’n ysgol gynradd oedd Andrew De Menezes odd yn hannar... odd ei dad o’n dod o Goa...yy oedd partnar, yy partnar busnas ‘y nhad, Suryakant Chauhan, yy, ynta yn Gujurati, ond yn Gujurati odd wedi cael ei fagu yn, yn Uganda ac wedi gor’o ffoi o fanna yn sgil Idi Amin...a dwi’n cofio synnu...mm... pan ddudodd o ryw dro fod o am ymweld â India am y tro cynta... a dyna falla dangos y gwahaniath rhwng cael dy fagu’n Gymro yn Llundan a chael dy fagu o ryw wlad arall, odd hi’n hawdd iawn... odd Cymru’n agos, hynny yw, hydnoed yn oes fy nhad oedd Cymru’n gymharol agos, on nhw’n medru mynd yno yn rheolaidd, odd y nhad ynta yn mynd bob gwylia, Dolig, Pasg, Haf at ei famgu a’i dadcu a mae’n siwr fod hwnna’n elfen yn...yn ...cadw ei Gymraeg ynta yn loyw...
mm... ond dipyn yn wahanol ydi hi i bobl y cymuneda Asiaidd, tmod, di rhywun ddim yn mynd i neidio ar plên i fynd nôl i... wel doedd... Suryakant ddim yn mynd nôl i Uganda nagodd, am resyma amlwg ‘lly, ond dodd India ddim yn lle agos iddo fo
Felly, ie... mae, mae’r pwysa... mae’r hyn sydd ar gael i rywun, i helpu cynnal ei hunaniaeth mewn iaith arall, yn dibynnu o ba... o ba garfan, o ba ethnigrwydd y mae rhywun yn dod, ond yn gyffredinol yn mmm yn y saithdega, dwi’n teimlo... odd bobol.... oddan ni ddim yn siarad am y peth ‘ma ...i radda ‘lly, tmo, odd yy tmod, odd ein Cymreictod ni yn ... swn i ‘di arddel y peth sa rhywun ‘di gofyn i fi yn Llundan, ond doddan ni’m yn neud hynny...
Fel enghraifft o hwnna...mm... on i wedi penderfynu y liciwn i neud Lefel O yn Gymraeg, a felly on i ’di siarad hefo’r ysgol, on nhw ’di cytuno, ’swn i’n sgwennu ffwrdd am y papura, mi fasan nhw’n caniatau imi ...yy... ‘san nhw’n ‘invigilatio’ fi yn de, san nhw’n neud yn siwr bo fi’n atab y cwestiyna o dan amoda arholiad priodol... ac felly yy ar y dwrnod dan sylw... mm... arholiad physics oedd y prif arholiad yn y neuadd y dwrnod yna, felly dyma fi, cyn mynd mewn i’r neuadd yn sbio lle odd yn enw i, a pha rif desg on i fod mynd iddo, achos on i’n sicir ddim isio ista lawr i geisio atab papur physics, gan fod o’n bwnc on i ‘di rhoi gora iddi... A wrth yn ymyl i, wrth y bwrdd yn trio ffindio’i ddesg ynta. oedd un... hogyn odd yn yr un dosbarth â fi, Bremen ... odd Bremen... on i’n methu dallt pam fod o yna, achos on i’n gwbod fod Bremen mwy na finna ddim yn gwneud physics, odd o ‘di rhoi gora i’r pwnc hefyd, ‘ma fi’n deu’tho fo,
‘be ti’n da fa’ma felly? Ti’m yn gwneud physics’
‘Na,’ medda fo ‘na, na, I’m doin O level Dutch’
‘Dow,’ medda fi, ‘be, ti’n siarad Iseldireg ‘lly?’
‘Yndw, yndw, dyna’n iaith ni, dyna iaith y teulu adra, dyna dan ni’n siarad adra’
‘O!’
‘Ond be ti’n da ‘ma?’ medda fo, ‘ti’m yn neud physics mwy na fi’
‘Wel, na, dwi yma i neud ...arholiad Cymraeg’
‘O... ti’n siarad Cymraeg ‘lly?’
‘Ie, ie, dyna dan ni’n siarad adra’ ...so odd o’n... odd profiad y ddau ohonon ni’n ddrych i’n gilydd, odd’ni’m yn ymwybodol bod na ryw fath o lefel... haenau erill ...yy...i’n hunaniaeth ni, tu hwnt i’r...i’r ...yr mm... y Susnag oedd yn tra-arglwyddiaethu ar bob dim... - ac fel y mae i radda helaeth hyd heddiw ‘lly - ond dwi’n meddwl, ma, ma petha’n iachach ‘wan, mae’na fwy o ymwybyddiaeth o leia, bod ‘na... bod ‘na...tmod, mae na ffyrdd erill, ffyrdd erill o fyw, a ieithoedd erill i’w siarad... ond tmod, dan ni’n sôn am y ‘70au pan odd bobol yn meddwl fod Love thy Neighbour yn adloniant... mm, ia felly, dan ni wedi symud ymlaen, dwi’n falch o ddeud.
Short url: https://clilstore.eu/cs/12437