Clilstore Facebook WA Linkedin Email
Login

This is a Clilstore unit. You can link all words to dictionaries.

Ifor ap Glyn (3)

Roedd cenhedlaeth fy rhieni... ymhlith Cymry Llundan ’lly... yn... falla yn Gymreiciach eu hiaith nag y basan nhw’di bod, oni  bai am y rhyfal, yr Ail Ryfal Byd... Mi wnath yr Ail Ryfal Byd greu rhyw fath o Ha’bach Mihangal yn hanas y gymdeithas Gymraeg yn Llundan oherwydd bod cenhedlaeth gyfa’ o blant, gan gynnwys ’y nhad yn hun, yy, wedi cael eu hanfon, yy, yn lle bod nhw ‘di mynd fel faciwîs i rwla random, o Lundan, fel dwmbod, Norfolk, Devon neu lle bynnag, oedd eu rhieni hefo’r opsiwn i...i anfon eu plant i rwla saff o’u dewis nhw eu hunain... a dyna oedd y patrwm gan y Cymry yn Llundan, bod nhw’n anfon eu plant at mamgu a tadcu, yn y gorllewin gan amla... ac felly odd ‘na rai wedi cael treulio... y rhyfal cyfan... mewn cymdeithas gwbwl Gymraeg, rhai ohonyn nhw wedi dod nôl i Lundan... falla chydig yn brin eu Susnag! Blwyddyn fuodd ’y nhad lawr yn... lawr hefo’i famgu a’i dadcu ynta, ym Mhontrhydfendigaid, a hynny yn anterth y blitz o 1940 hyd 1941... yy... ia, felly odd hwnna wedi creu... fel dwi’n ddeud, cenhedlaeth o Gymry Llundan oedd ...oedd yn ddigon cadarn eu hiaith, ond eto, o ran y trosglwyddo... ia, o’na, fel dwi’n deud, o’na lot o slippage, dwi’n cofio, cofio siarad hefo...mm  criw ohonon ni oedd yn cwarfod, criw o Gymry Llundan ifainc oedd  yn cwarfod bob nos Wenar yn Clwb Cymry Llundan yn Grays Inn Road... a rhywun yn gofyn ryw noson tmo...’ow many of us, ‘ow many of our parents speak Welsh then? So... dyma ni’n mynd rownd, ugian ohonon ni’n ista ...mewn un cylch, ac... wyddoch chi be, rodd pymthag ohonon ni hefo dau riant oedd yn medru Cymraeg, odd y pump arall hefo un rhiant odd yn siarad Cymraeg, ond o blith yr ugian yna, dim ond pump ohonon ni, o’n cenhedlaeth ni, odd wedi cal yr iaith gin eu rhieni... felly dyna fo, lot fawr o Gymry Llundan yn y cyfnod yna yn dechra’r 1960au ddim ‘di gweld gwerth i basio’r iaith ymlaen i’w plant nhw, a felly dwi’n ofnadwy o ddiolchgar i’n rhieni i, bod nhw wedi gwneud hynny...

mmm...sy ddim i ddweud nad on i ddim yn clywad lot o Susnag...mmm...ar yr aelwyd. Mmm roedd fy mrawd hefo ...yy...amball i ...mm...broblam, a’r doctor wedi cynghori fy rhieni, o, dylen nhw... o, sdim rhyfadd fod gynno fo broblema, achos on nhw’n siarad Cymraeg hefo fo... ie, yn ôl doethineb yr oes, felly mm...dyma’r iaith yn newid fwy fwy wedyn i...i fod yn Susnag ar yr aelwyd. Oeddan ni’n siarad Cymraeg pen oeddan ni’n ...mmm...mynd i’r capal... a roeddan ni’n siarad Cymraeg, a dyma o bosib y waredigaeth yn fy achos i, roeddan ni’n siarad Cymraeg pan oddan ni’n mynd lawr i weld ein perthnasa, on ni’n treulio bob gwylia Pasg a haf, hefo nain a taid yn Llanrwst, a dyna falla sy’n rhoi cyfri am y ffaith ma’ acen gogleddol sy gen i, mwy na acen gorllewinol, achos oddan ni hefyd yn mynd at... wel... hen gartra ‘y nhadcu ym Mhontrhydfendigaid, mm...ond roedd trwch y boblogaeth yn Llundan, yn rhai o’r gorllewin... hynny yw, i radda, mae wnelo hynny a demographics, os wyt ti’n byw yn y gogledd, wyt ti’n fwy tueddol o fynd i geisio byd gwell ym Manceinion neu Lerpwl, a’r rhai yn y gorllewin ac yn y de oedd ella’n fwy ...fwy tueddol i ddod i Lundan.

Cenhedlaeth cyn hynny wrth gwrs, on nhw’n pentyrru i bentrefi glofaol y de ddwyrain, ac yn wir mae gen i lot o deulu lawr yn hen gymoedd  glofaol Morgannwg... Ond yng nghenhedlaeth ’y nhadcu, aeth fynta a’i ddau frawd i Lundan, i weithio yn y banc...yy... odd gynnon nhw gefndryd oedd yn gweithio yn y busnes...yy.. busnes llaeth, a hwnnw oedd... os dach chi’n sôn am bobol... o be oedd y, ‘be oedd y Cymry’n neud yn Llundan?’ dyna’r atab ‘sat ti’n gael fel arfar ‘o ie, gweithio mewn busnesa llaeth’...odd gynnon ni berthnasa odd yn gwneud hynny ‘lly... ond na, mynd i weithio’n banc ddaru tadcu...mm... odd Ceredigion, y sir...y sir yna ar orllewin Cymru, yn sir gyda’r tlota ma’n debyg, tua diwedd ail hannar yr ail ganrif ar b... ail hannar  y bedwaradd ganrif ar bymtheg... ac felly odd na dynfa i Lundan i geisio byd gwell ac oddan nhw ‘di ffindio bod nhw’n medru defnyddio’u sgilia amaethyddol os liciwch chi, i gadw... gadw gwartheg yn Llundan mewn, mewn... yn amal iawn yng nghefn, yng nghefn y busnes llaeth ac oeddan nhw’n mynd allan wedyn i rywle fel Hackney Marshes i bori wedyn am dri mis, nôl a mlaen ‘lly, fel bod nhw ddim yn colli gormod o gyflwr yn pori ac yn ymbesgi ac yn creu llaeth dan do yng nghefn rhyw stryd yn Llundan, dyna oddan nhw’n ei wneud a wedyn yn raddol dyma’r busnesa llaeth yn esblygu o fod yn bobol oedd yn cadw gwartheg, i bobol oedd yn prynu llefrith mewn, ac yn cadw siopa...

mi oedd ‘na garfan helaeth arall oedd yn gweithio mewn ‘retail’ ar lefel wahanol, dyna aeth â’n hen dadcu i Lundan, i weithio mewn siop... siop draper, odd na lot fawr o Gymry yn, yn wneud hynny, eto, cryn dipyn ohonyn nhw wedi dod o Geredigion a sir Gâr, yy, ia, dyna, dyna... dyna ffasiwn le oedd, oedd Llundain yn y cyfnod yna... a ‘rhan o’i waddol wyf inna’!

Clilstore CIALLIfor ap GlynExtensions

Short url:   https://clilstore.eu/cs/12436