This is a Clilstore unit. You can .
Odd ‘na lot o slippage fel maen nhw’n ddeud... ‘swn i’n cymyd ‘yn ffrindia gora fi yn Llundain, finna Ifan Williams, David Williams, David Evans... do’na’m patrwm, pan dach chi’n trafod ein profiada gwahanol ni ‘lly, mae Ifan fel finna yn gwbl rugl ei Gymraeg, ei fam a’i dod o yn dod... wedi dod i fyny i Lundain o’r gorllewin
... fy rhieni i, mam, o’r gogledd, wedi dod i Lundain, dad wedi’i fagu yn Llundan... wedyn David Evans, ynta wedi’i fagu gan ddau o Gymry Llundain oedd yn rhugl yn yr iaith a... ynta’n medru’r iaith yn reit dda... wedi bod fel Ifan, yn yr ysgol Gymraeg... ond well gynno fo siarad Susnag, dwi’n meddwl mae’n deg i ddeud hynny, mae’n fwy cyffyrddus yn siarad Susnag...
David Williams wedyn, eto, mam a dad yn Gymry Llundain, yn rhugl yn Gymraeg ond ddaru nhw ddim trosglwyddo’r iaith iddo fynta, mae’n dallt Cymraeg yn dda iawn, ond wnaiff o’m siarad mwy na ryw amball i air... felly does na’m patrwm amlwg, dio ddim...fel dach chi’n gweld, dydi’r ffaith fod rhieni rhywun wedi dod o’r wlad, yn hytrach na bod nhw wedi’u magu yn y ddinas, ddim yn golygu o reidrwydd bod rhywun yn medru’r iaith...
i ddod nôl at gwestiwn yr ysgol... mi odd ‘na ysgol Gymraeg yn Llundan pan on i’n tyfu fyny – ysgol gynradd – ond, yn gam neu’n gymwys, wnath mam a dad benderfynu dodd o ... tmod... baswn i jest yn gallu mynd i’r ysgol leol yn Pinner, lle on ni’n byw erbyn hynny, a...ysgol Susnag, fel sach chi’n dychmygu... ella oherwydd... odd yn nhad fel Cymro Llundain a mamgu o’i flaen o, fel Cymraes Llundain, hynny yw doedd na’m ysgol Gymraeg iddyn nhw pan on nhw’n tyfu fyny... roeddan nhw wedi dal eu gafal ar y Gymraeg, felly ella bod nhw’n teimlo ‘tydi mynd i ysgol Gymraeg ddim yn hanfodol’, i sicrhau fod rhywun yn dal ei afael ... ar y Gymraeg, a felly fu
A tmod dwi’n meddwl mae’n deg i ddweud, pan dwi’n meddwl am bobol o ‘nghenhedlaeth i. mae’r Cymreigyddion gora, y siaradwyr gora, mwya naturiol, mwya rhugl, ddim o reidrwydd yn rhai fuodd drwy’r ysgol Gymraeg... felly eto... mae’r ysgol Gymraeg wrth gwrs yn werthfawr a da o beth fod o gynnon ni ond dio’m yn ‘fath â sine qua non, o ran sicrhau parhâd i’r Gymraeg yn y ddinas...
Rhyw hanner cant o blant sydd yn yr ysgol erbyn hyn heddiw... hanner cant dwi’n meddwl sydd ar y llyfra ...ar unrhyw...
Mae rhai ohonyn nhw yn yr adran feithrin, rhai ohonyn nhw yn y blynyddoedd cynradd, mae rhai... yn... ddim yn dod yno bob diwrnod... mae’u rhieni nhw ‘di dod i drefniant hefo’u hysgolion lleol nhw ...yn caniatau iddyn nhw eithrio o’u hysgol leol ... i fynd i’r Ysgol Gymraeg i gael rhyw fath o tmod, ‘boost’ jest am ddwrnod...neu ddau ddwrnod mewn wsnos, i helpu nhw mlaen hefo’u, hefo’u Cymraeg, felly mae ‘na bob math o batryma, mae ‘na rai blant wrth gwrs sy’n mynd yno... mm... rownd y ril, ’lly ...a rhai..
..mae’na... mae’na batrwm hefyd lle ma plant yn aml iawn yn tueddu optio allan falla o flwyddyn pump, blwyddyn chwech er mwyn iddyn nhw fedru ymsefydlu yn eu hysgol gynradd leol, er mwyn iddyn nhw gwneud ffrindia... lleol, cyn iddyn nhw symud mlaen i’r ysgol uwchradd. Ond eto, mae ‘na rai sydd yn ...yn aros yn yr Ysgol Gymraeg, nes bod nhw yn un ar ddeg... a da o beth bod o ...bod o gynnon ni.
Short url: https://clilstore.eu/cs/12435