Clilstore Facebook WA Linkedin Email
Login

This is a Clilstore unit. You can link all words to dictionaries.

Ifor ap Glyn (1)

‘Sut beth oedd gael fy magu yn Gymro, yn Llundan?’ Dyna gwestiwn dwi ‘di’i glywad... fwy nag unwaith yn ystod... yn ystod ‘y mywyd... gan amla mae pobol isio gwbod ‘sut odd o’n wahanol i gael dy fagu yng Nghymru?’

Wel mae’n dibynnu lle yng Nghymru ‘de... Petawn i wedi cael fy magu yn Llandudno... neu yn Fflint, neu dwimbo...Caerdydd, mae’n bosib y basa ‘di bod yn ddigon tebyg, hynny yw. ‘swn i’m ‘di clywad llawar o Gymraeg o ‘nghwmpas i ... mi faswn i ella ond yn siarad Cymraeg hefo aeloda o’r teulu... y prif wahaniaeth mae’n siwr ydi, petawn i wedi cael fy magu mewn ... rhwla mwy Seisnigedig yng Nghymru mi fasa o leia mwy o gyfla imi dderbyn fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg

...down ni nôl at hynny wedyn, mi oedd ysgol gynradd Gymraeg yn Llundan ond fel dwi’n ddeud gawn ni drafod hwnna wedyn

So, sut le oedd Llundan pan on i’n tyfu fyny yn y 1960au a’r 1970au, o ran y Gymraeg, o ran y gymdeithas Gymraeg yno?

Wel, yr hyn odd yn dominyddu y gymdeithas Gymraeg mae’n debyg oedd trindod o sefydliada... Clwb Cymry Llundain yn Grays Inn Road, clwb cymdeithasol... Clwb Rygbi Cymry Llundain yn Old Deer Park... a hefyd rhyw ddeugian o gapeli Cymraeg... o gwmpas y ddinas – mi gychwynnon ni yn Capal Charing Cross... a wedyn symudon ni i gapal Willesden Green odd ychydig yn nes at lle oddan ni’n byw, a wedyn symudon ni at Capal Harrow odd hydyn oed yn nes fyth at le oddan ni’n byw.

...felly dyna... dyna... dyna y peuoedd os liciwch chi, dyna’r llefydd odd rhywun yn medru defnyddio’i Gymraeg. O’na’m llawar o Gymraeg i’w glywad yn y clwb rygbi, dodd na ddim gymaint a chymaint i’w glywad yn Clwb Cymry Llunda, mwy yn fanno ella, ... a hyd yn oed yn y capal... odd na saith ohonon ni yn ‘yn nosbarth ysgol Sul i, odd pump o’non ni’n medru Cymraeg a dau ddim, felly odd hyd yn oed y dosbarth ysgol Sul yn Susnag; felly tmod, dodd o’m yn beth cynaladwy... oddan ni’n cael ein trwytho yn yr egwyddorion Cristnogol ond falla ddim yn cael ein helpu ymlaen hefo’r iaith.

Clilstore CIALLIfor ap GlynExtensions

Short url:   https://clilstore.eu/cs/12434