Clilstore Facebook WA Linkedin Email
Login

This is a Clilstore unit. You can link all words to dictionaries.

Christie Williamson: gŵr o Shetland yn Glasgow

Dyma Christie Williamson. Mae wedi treulio’r rhanfwyaf o’r ganrif hon yn ninas Glasgow, ond mae’n hanu o ynys Yell. Yell ydi’r ail ynys fwya yn Shetland, y tir mawr yw eu henw nhw ar yr ynys fwya. A dyna le dysgodd o siarad iaith Shetland, gan bobl Yell a gan ei deulu ehangach, ei nain a’i daid ar ochor ei dad a’i gefndryd o Scalloway ar ochor ei fam.

Mae ei fam a’i dad yn bobl Shetland – ei dad oedd y weinidog ar ynys Yell am flynyddoedd. Cenhadwr lleyg ar yr ynys oedd o pan anwyd Christie- ac roedd wedi bod yno ers tair blynedd ar y pryd. Un o Nesting oedd o yn wreiddiol, ac mae Christie’n cofio nain a taid Nesting, yn iawn. Roedden nhw’n dal i fyw yn y tŷ lle magwyd ei dad ac yn dal i ffermio’r crofft yn Newing lle cafodd ei dad ei eni.  Roedd eu hiaith Shetland nhw yn gyfoethog iawn, ac mae Christie’n falch iawn iddo gael y cyfle o fynd atyn nhw i aros.  Doedd ‘na ddim trydan yn y tŷ, a ’mond un tap dŵr oer, ac er ei fod o'n falch nad oes rhaid i neb fyw fel yna dim mwy, mae'n falch fod o wedi cael y profiad o leia, achos fel'na oedden nhw'n byw drwy'r flwyddyn.    

Mae Christie wedi llunio cerdd am y tŷ hwnnw, ac enw’r gerdd ydi ‘Burns’.

Roedd yr haul yn tywynnu
drwy ffenest  y to
ac roedd y cerrig hir
poeth ac oer
yn brifo bodiau ’nhraed
â breuddwydion angof.

Gwlân a phlu
a gwres fy nghorff
oedd yn cadw cornel
y tŷ hwnnw yn fy nghalon
rhag oeri
gymaint â’r aer.

Mae llaw, yna braich pyjama,
yn sleifio i’r bore.
tynnu sannau am fy ’nhraed coslyd.
Gwisgo crys T a siwmper
fel un, wrth i ‘nghoesau
grynu’u ffordd i ’nhrowsus.

Codaf y pot piso sych,
a 'styllen-wichio
fy ffordd drwy’r drws
a gadael i’m sliperi
droed-afael ymhob gris
tua 'mrecwast.

Mae’r to y cysgais odditano wedi mynd,
ni ddaw mwg o’r simdda mwy;
ond lle bynnag yr âf ar fy hynt
bydd y tân gynheuwyd gan fy nhaid
wrth droed y grisiau, er fy mwyn,
yn llosgi’n f’esgyrn o hyd.

 

Dyna hanes ei deulu o Nesting felly. Un o Scalloway oedd ei fam, er bod ei mam hithau â gwreiddiau yn ynys Yell – un o deulu Houston oedd hen-daid Christie o Graveland yn Whalfirth.  Gan fod mam Christie yn un o wyth o blant, roedd'na lawer o leisiau Scalloway i’w clywed ar aelwyd teulu Christie, yn enwedig ers i’w rieni symud yn ôl i Scalloway yn 1999, i’r tŷ lle magwyd mam Christie.

Ond mae Christie wedi ymgartrefu ers 2001 yn Glasgow, ac mae’n sgwennu cerddi yn iaith Shetland ers 2003,  - ugain mlynedd a mwy-  felly mae wedi hen arfer bellach.

Un rheswm pam y dechreuodd sgwennu yn iaith Shetland oedd am ei fod yn byw’n alltud  lawr fa’ma yn Glasgow. Iaith Shetland oedd ei iaith naturiol ond doedd na’m digon o gyfle i’w defnyddio, 'mond ar y ffôn hefo’i rieni, neu os oedden nhw’n dod lawr i’w weld o, neu yntau’n mynd nôl adre. Mae gynno fo frawd draw yng Nghaeredin, ac mae ambell un arall o Shetland wedi setlo yn Glasgow hefyd  – bydd yn gweld Chris Stout o bryd i’w gilydd, sy’n rhoi cyfle am sgwrs.

Ond roedd Christie angen mwy o gyfle i gael mynegi’i hun yn iaith ei galon, ac o fanno mae’r cerddi ‘di dod.

O safbwynt cyhoeddi a pherfformio’r cerddi hyn, mae wedi’i eni mewn cyfnod digon ffodus. Mae ei ragflaenwyr Robert Alan Jamieson a Christine De Luca wedi gwneud barddoniaeth a llenyddiaeth yn iaith Shetland yn rhan bwysig o’r bywyd llenyddol yn yr Alban a thu hwnt.

Mae nhw yn eu tro wedi adeiladu ar waith arloesol awduron iaith Shetland fel John Graham, T A Robertson, (neu Vagaland fel oedd o’n galw ei hun), Stella Sutherland, Billy Tait, a Rhoda Bulter – mae ‘na hanes hir a chyfoethog felly o ddefnyddio’r iaith hon, sydd wedi esblygu dros y canrifoedd oherwydd safle unigryw Shetland; rhwng yr Alban a Norwy; a rhwng yr ‘gwledydd islaw’ fel mae pobl Shetland yn eu galw, a’r Arctig.

Mae cerddi Christie wedi mynd â fo dipyn ymhellach nac Ystrad Clyd a Glasgow. Grasmere yn Cumbria oedd y lle cynta iddo gyflwyno'i waith tu allan i’r Alban,a hynny yn 2011. Ers hynny, mae wedi teithio hefo’i gerddi i ddinas Efrog Newydd ac i Nicaragua; bu’n rhan o brosiect hefo Christine De Luca  yn yr Algarve, i ddathlu  barddoniaeth Fernando Pessoa- a chafodd deithio hefyd i ynys Aruba yn Ne’r Caribî, a dysgu am yr etifeddiaeth ieithyddol unigryw sydd yno. Mae’r teithio a’r anturiaethau’n parhau ac mae’n bwysig gan Christie fod yn agored i’r hyn y gall y byd mawr crwn ei gynnig.

Ond yr un mor bwysig, ac efallai’n fwy angenrheidiol, yw cofio fod o, a’r cerddi sydd wedi agor cymaint o ddrysau iddo o gwmpas y byd, i gyd yn dod yn y pendraw o ynysYell.

Clilstore CIALLIsland Voices

Short url:   https://clilstore.eu/cs/12343