Clilstore Facebook WA Linkedin Email
Login

This is a Clilstore unit. You can link all words to dictionaries.

Donald S Murray: siaradwr Gaeleg yn Shetland

Dyma Donald Murray, neu Donald S Murray. Cafodd ei fagu ar ynys Liowas, ond bellach mae’n byw yn Shetland.

Gweithiodd am flynyddoedd fel athro yn ysgolion Shdorna-fai a Benia faly cyn dod i weithio yn  Shetland. Yn ddiweddar, mae wedi troi’n awdur llawnamser. Er ei fod o’n siaradwr Gaeleg iaith gynta, gan amla, sgwennu’n Saesneg bydd o.

Mae o wedi cyhoeddi tipyn o gerddi, a nifer o lyfrau, rhai ffeithiol a rhai ffuglen, gan gynnwys nofelau a straeon byrion.

“Wnaeth ewyrth i Lisa farw yn Detroit, 

ymladd mewn gornest paffio oedd o.

A dyma ni wedyn, 

wrth ei fedd yn Detroit, 

a dyma sut 

mae’r gerdd ’ma’n cychwyn…”

Cafodd ei fagu yn Dal fo iês, pentre bach yn  Nish ym mhen draw ynys Liowas, ardal lle mae crefft dweud straeon wedi aros yn boblogaidd.

Mae hyn wedi gadael ei ôl mewn sawl maes, gan hogi sgiliau’r brodyr Campbell, neu balich a’ focser, sef Alasdair, Norman a Donald, oedd yn medru llunio dramâu a rhyddiaith yn ogystal â cherddi. Mae’r gwaddol yna’n parhau hyd heddiw yng ngwaith awduron ifainc, fel Catriona Lexy Campbell.

Gadawodd y traddodiad ei ôl ar ambell aelod o’i deulu yntau hefyd. Roedd ei ewyrth Dolly yn fardd ac yn llunio pregethau oedd yn cael eu canmol am eu doethineb, a’u ffraethineb weithiau. wnaeth ei frawd Allan sgwennu llyfr am hanes colli’r Annie Jane yn Vatersay.

Ond mae’r reddf hon o bosib yn mynd ymhellach fyth yn ôl. Ymhlith ei gyndadau roedd teulu Laing,  oedd yn enwog yng Ngogledd uist a thu hwnt am eu dawn dweud stori. mae’n perthyn i deulu Maclean o Tjirich hefyd. Mae’r rheini’n enwog, o gyfnod y beirdd Gaidhlig eu hiaith, hyd at awduron enwog y cyfnod diweddar fel Shona Maclean... ac wrth gwrs Alistair Maclean. Roedd y comedïwr a’r canwr Norman Maclean hefyd o’r un tylwyth hefyd ac yn gallu sgwennu mewn Gaeleg a Saesneg.

Roedd Donald yn ffodus hefydd iddo fynd i ysgol gynradd Cros, lle sylwodd y prifathro, Charles MacDonald, fod ganddo ddawn sgwennu.  Byddai’n rhoi ambell bad sgwennu i Donald a’i annog i’w llenwi nhw. Mi fyddai’n anfon ei waith wedyn mewn i gystadleuthau ac fellyenillodd o wobr gan Brooke Bond a’r Gymdeithas Atal Creulondeb i Anifeiliaid. Wnaeth o hyd yn oed sgwennu stori i’r Dandy yn y cyfnod yma:  “My hometown Stornoway”.

Felly mae’r awydd'ma i sgwennu, ynddo fo ers blynyddoedd. Ond pan oedd o tua 20 oed, yn gweithio yn  Glasgow ac yna’n fyfyriwr yno, dyna pryd y dechreuodd sgwennu straeon byrion, i Chapman, y Scottish Review, ac i Radical Scotland. Wnath o hyd yn oed sgwennu un ar gyfer slot  Morning Story ar Radio Pedwar.

Mae’n meddwl fod ffurf lenyddol y stori fer yn gweddu i’r Aeleg sc i fywyd mewn cymunedau bychain. Bywyd mewn trefi bychain yw canolbwynt cymaint o’r straeon hyn, yn Iwerddon ac yng  Nghanada hefyd, lle maen nhw’n ddewis naturiol i awduron fel yntau.

Ond mae Donald wedi ymestyn ei sgiliau ers hynny, i fyd llyfrau ffeithiol  - ac mae o wedi sgwennu prdair nofel hefyd.

Ei nofel gynta, As the Women Lay Dreaming, oedd yr anodda mae’n debyg, yn trafod trychineb llong yr Iolaire . Sgwennodd un arall wedyn am Ben Lomond, In a Veil of Mist, sydd hefo cysylltiad â Tolsta, lle roedd gynno fo deulu. Wedyn, mae’r Call of the Cormorant yn fwy o stori ddirgel, am ddyn o Ynysoedd Faro oedd yn meddwl mai fo oedd Dug ynys St Kilda! Ac yn fwya diweddar yn The Salt and the Flame, mae wedi sgwennu hanes yr ymfudwyr aeth o’r ynysoedd, ar y Metagama a’r Marloch, draw am America yn 1923 a ‘24, a be oedd eu hanes nhw wedyn.

Pan oedd Donald yn blentynnyn Dal fo iês, fasa fo byth di meddwl fod y fath yrfa’n bosib. Tasat ti di deud ‘tho fo bryd hynny, y basa fo ryw ddiwrnod yn awdur ac yyn nofelydd, ‘sa fo ‘di meddwl bod colled arnat ti!

 

Clilstore CIALLIsland Voices

Short url:   https://clilstore.eu/cs/12342