This is a Clilstore unit. You can .
Dyma Audrey West a dyma'i chartre.
Er iddi fyw yn Llundain ers pan oedd hi'n 6, mae wedi hiraethu erioed am gael byw mewn ardal fynyddig ger y môr. Dyna'i chynefin pan oedd hi'n blentyn yn Jamaica.
Byddai hi'n edrych allan i'r môr o veranda'r tŷ... acroedd y cychod draw yn ymddangos mor fach â'r rhai bach papur oedd hi'n gwneud ei hun.
A byddai'n gwylio defaid Mr Steadman ar y bryn gyferbyn, yn symud yn araf araf fel cymylau dros y glaswellt. Wnaeth niwl Llundain fyth chwalu'r atgofiion hynny,
ac yn 2017gadawodd Lundain i fyw yn harddwch Gogledd Cymru.
Bellach a hithau wedi ymuno â'r clwb rhwyfo, yn y dref fach gyfeillgar hon, mae'n nes at y môr nac y buodd hi erioed, hyd yn oed yn Jamaica!
Mae'r môr a'r mynydd yn ei hatgoffa o'i man geni yn Portland. Gadawodd fanno'n 1962 i ymuno â'u rhieni yn Llundain efo'i dau frawd a'i thair chwaer.
Dihangfa oedd hon - roedd ei chwaer fach newydd farw.
Roedd hi wedi byta yam oedd wedi gwenwyno a bu'r gweddill ohonyn nhw'n swp sal hefyd
Mae'r hen luniau o'r teulu sydd gan Audrey o hyd yn cadw'r atgofion am y cyfnod yna'n fyw
Wnaeth ei rhieni anghofio'u syniad gwreiddiol o fynd nôl i Jamaica mhen pum mlynedd.
Roedd yr eira, y niwl trwchus a'r palmentydd llwyd wedi cuddio unrhyw aur oedd i fod ar strydoedd Llundain.
Ond roedd Lloegr yn cynnig addysg a gwnaeth Audrey'n fawr o'i chyfle. Nid oedd yn fêl i gyd - yn yr ysgol y profodd hi ynfydrwydd hiliaeth am y tro cynta.
Ond nôl adre roedden nhw'n gallu chwerthin am ben pethau felly.
Roedd Audrey'n darllen llawer, o gerddi Louise Bennett yn iaith Jamaica, i'r llyfrau oedd hi'n cael mewn ffeiriau sborion-
Yn un o'r rheini, cafodd ei llyfr cyntaf am Seicoleg pan oedd hi ond yn 10 oed.
Mae'r pethau hyn yn ddylanwad arni hyd heddiw.
Graddiodd Audrey mewn Astudiaethau Iberia a Lladin America, a threuliodd amser yn Sbaen i ddod yn fwy rhugl yn yr iaith. Ar ôl cael mwy o brofiadau hiliol hefo swyddogion y ffin, penderfynodd ildio'i phasbort glas o Jamaica a chodi un Prydeinig du i wneud teithio'n haws. Onibai am hynny byddai hithau hefyd wedi'i dal ynghanol yr ymdrechion hyll i alltudio cenhedlaeth Windrush.
Wrth hyfforddi fel athrawes, ail-gydiodd mewn celf gweledol. Gweithiodd mewn theatr fach leol a darllen gwaith gan ferched duon. Bu'n athrawes am sbel, ond roedd hi'n ysu am gyfle i fod yn fwy creadigol. Yn dilyn marwolaeth ei mam yn 1984, aeth hi nôl i Sbaen i ddysgu ac i beintio. Daeth hi nôl i Lundain chwe mis yn ddiweddarach pan gollodd ei brawd hyna mewn damwain.
Rhannodd ei bywyd wedyn rhwng gwaith datblygu yn y gymuned, ei phartner o dras Jamaica, a'u merch fach.
Yn naturiol, siaradai â'i merch yn iaith Jamaica ond roedd ei phartner, oedd wedi cael coleg, yn wfftio at hynny. Dyna gyflymu'rdirywiad oedd yn eu perthynas nes iddyn nhw wahanu'n diwedd.
Roedd 'na rywbeth o'i le, ac mi geisiodd Audrey gymorth gan therapydd. Ac ar ôl hynny wnaeth ffrind da iddi ei hannog hithau i droi'n seico-therapydd.
y dyddiau hyn mae Audrey'n dal i beintio, ac yn mwynhau ieithoedd, eu siarad a'u sgwennu, yn enwedig iaith Jamaica
Ond sgwrs ar hap mewn siop yn y dre wnaeth ddatgelu fod ganddi berthynas gwbl annisgwyl â rhywun lleol. Dyma ran o gerdd ganddi sy'n adrodd peth o'r hanes.
Erbyn deall, nid Audrey yw'r unig un yn y dre'ma sy'n perthyn i deulu'r Espeute. Ac mae wedi dod yn ffrindiau hefo'r berthynas newydd hon.
Yn y flwyddyn 2000 wnaeth cwrs MA mewn Cof a Diwylliant newid bywyd Audrey. Wrth astudio effaith trawma ymhlith disgynyddion yr Iddewon a oroesodd yr holocost, sylweddolodd fod trawma wedi parhau am genedlaethau hefyd ymhlith disgynyddion yr Affricaniaid gafodd eu caethiwo a'u cludo dros yr Iwerydd. Doedd y syniad hwn ddim yn cael ei gydnabod ar y pryd ym Mhrydain - er bod sawl un o Jamaica'n ymwybodol ohono. Ac mae hyn wedi gyrru pob agwedd ar ei gwaith ers hynny, o'i chelf a'i cherddi a'r gwaith iachau mae'n ei wneud drwy seicotherapi, a gwaith yn y gymuned.
Mae'i stori'n parhau ac mae hi'n edrych ymlaen at y bennod nesa.
Short url: https://clilstore.eu/cs/11888